DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL 

 

Cymorth ychwanegol o dan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru

DYDDIAD 

06 Mawrth 2019

GAN

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Rwy'n falch o hysbysu'r Aelodau fod cymorth ychwanegol yn mynd i gael ei roi i'r rheini sydd wedi'u heintio â Hepatitis C a /neu HIV drwy waed neu gynhyrchion gwaed heintiedig. Mae'r effaith sylweddol y mae heintiau o'r fath yn ei chael ar fywydau llawer o unigolion wedi cael ei thrafod yn helaeth yn siambr y Cynulliad. Derbynnir y bydd buddiolwyr o dan y cynllun taliadau ex-gratia a ddarperir drwy ein partneriaid yng Nghynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru wedi profi anawsterau sylweddol o safbwynt iechyd meddwl, llesiant ac anhwylder straen wedi trawma yn sgil cael eu heintio.

 

Mae swyddogion wedi cyfarfod â'r rheini sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol, clinigwyr, a chynghorwyr budd-daliadau yng Nghynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru i gael eu barn nhw am gymorth ychwanegol ar gyfer pob buddiolwr. Canolbwyntiwyd yn arbennig ar y rheini sydd yng Nghyfnod 1 gyda chymhlethdodau sy'n cael effaith ar fywyd sy'n deillio o gael eu heintio â Hepatitis C.

 

Yn dilyn y trafodaethau hyn, rwyf wedi cytuno ar ddarparu'r cymorth ychwanegol a ganlyn:

Yn gyntaf, bydd taliad uwch, y cyfeirir ato fel Taliad Cynllun Hep C Cyfnod 1+ Uwch, ar gyfer y rheini sydd â Hepatitis C Cyfnod 1 eisoes ac sy'n dioddef o symptomau iechyd meddwl y maent yn ystyried sy'n gysylltiedig â'r ffaith eu bod wedi cael eu heintio â Hepatitis C a lle y gallai'r symptomau iechyd meddwl hynny effeithio ar eu gallu i ymgymryd â gweithgareddau o ddydd i ddydd. Bydd y taliad uwch gyfwerth â'r gyfradd dalu bresennol ar gyfer y rheini sydd yng Nghyfnod 2 haint Hepatitis C, sef £18,500 y flwyddyn. Pan fydd cais i gael Taliad Cynllun Hep C Cyfnod 1+ Uwch yn cael ei gyflwyno erbyn 23 Ebrill 2019, caiff y taliad ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2018 neu i'r dyddiad pan gafodd yr unigolyn daliad ex-gratia Cyfnod 1 gyntaf o dan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru, gan ddibynnu pa ddyddiad yw'r diweddaraf.

 


 

Bydd y Taliad Cynllun Hep C Cyfnod 1+ Uwch wedi'i ôl-ddyddio hwn yn cael ei dalu felly i'r buddiolwyr sydd wedi'u heintio ar hyn o bryd â Hepatitis C Cyfnod 1, neu fuddiolwyr oedd wedi'u heintio yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19, sy'n bodloni'r meini prawf perthnasol ac a oedd wedi cyflwyno cais am y taliad uwch hwn erbyn 23 Ebrill 2019.  Mae hyn yn ymestyn hefyd i unigolion sydd wedi marw yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19 a lle y mae cais am y taliad uwch yn cael ei wneud gan ystad y buddiolwr erbyn 23 Ebrill 2019.

 

Bydd y cynllun uwch a gynigir ar gyfer y rheini sydd yng Nghyfnod 1 lawer symlach na'r un sydd i'w gael dros y ffin, ac ni fydd angen unrhyw fewnbwn meddygol yn ystod y broses ymgeisio.  Gofynnir i fuddiolwyr yn syml a oes ganddynt unrhyw symptomau iechyd meddwl y maent o'r farn sy'n gysylltiedig â’r ffaith eu bod wedi cael eu heintio drwy waed neu gynhyrchion gwaed heintiedig, a beth yw'r symptomau hynny. Gofynnir hefyd iddynt a ydy’r symptomau iechyd meddwl hyn yn effeithio ar eu gallu i ymgymryd â gweithgareddau o ddydd i ddydd. Os bydd hyn yn berthnasol, ni fydd galw iddynt gael eu hasesu ymhellach oherwydd bydd yr unigolion eisoes wedi cael diagnosis o Hepatitis C o waed neu gynhyrchion gwaed heintiedig, a chydnabyddir eisoes fod hyn yn anghyfiawn.   

 

Yn ail, cynigir asesiad strwythuredig a phecyn o gymorth ychwanegol wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer yr unigolyn i bob un sydd wedi'i heintio ac i’w teuluoedd fel rhan o drefniadau cymorth seicolegol newydd Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru. Pwysleisiodd yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig fod angen cymorth o'r fath hefyd a bydd yn rhan o'r pecyn cyffredinol o ddarpariaeth holistaidd a gynigir. 

 

Yn ogystal â'r gwelliannau hyn, bydd Cynllun Gwaed Heintiedig Cymru yn mabwysiadu dull diwygiedig a mwy agored a thryloyw o weinyddu'r gronfa yn ôl disgresiwn bresennol.  Byddant yn ysgrifennu at yr holl fuddiolwyr i roi gwybod iddynt am y meini prawf cymhwyso ac yn eu gwahodd i gyflwyno cais. Bydd y cymorth hwn yn gwella ymhellach fywydau'r rheini a effeithiwyd, mewn ffordd decach a fydd wedi'i rheoleiddio'n well, a bydd yn ychwanegol at y taliadau ex-gratia ac ychwanegiadau at incwm rheolaidd a roddir eisoes.

 

Gallaf gadarnhau hefyd, o 1 Ebrill 2019, y bydd y gyfres o daliadau ex-gratia sydd ar gael ar hyn o bryd i'r rheini sy'n perthyn i Gynllun Gwaed Heintiedig Cymru yn cynyddu yn unol â'r Mynegai Prisiau Costau Byw yn cynnwys Tai, fel y’i cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2019.

 

Cyfarfu Mr Ustus Langstaff, Cadeirydd Ymchwiliad y DU i Waed Heintiedig, yn ddiweddar â Jackie Price-Doyle, Is-ysgrifennydd Seneddol, a chynrychiolwyr y rheini sydd wedi'u heintio a'u heffeithio, a gofyn iddi fynd i'r afael â'r mater o daliadau ariannol annheg ar draws cynlluniau cymorth gwaed heintiedig y DU.  Hanesion o galedi ariannol yr adroddodd unigolion wrtho yn ystod gwrandawiadau cychwynnol yr ymchwiliad oedd y tu ôl i’r cais hwn. Bu cryn bryder ynghylch y gwahaniaeth rhwng y cyfraddau a dalwyd, wrth reswm. Yn dilyn y cyfarfod hwn, cytunodd swyddogion ar draws adrannau iechyd y DU i gydweithio er mwyn adolygu cyfraddau taliadau ex-gratia a gwasanaethau holistaidd ehangach sydd i'w cael ar hyn o bryd, gan ystyried y cynnig a gyflwynwyd gan y rheini sydd wedi'u heintio a'u heffeithio.   

 

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ganlyniad y trafodaethau hyn maes o law.